Ynglŷn â gwobrau Cymru

Cymru Awards Winner holding Award

Mae Lantra Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau arbenigol hanfodol ar gyfer diwydiannau’r amgylchedd a’r tir. I ddathlu hyn mae Lantra Cymru yn cynnal seremoni wobrwyo unigryw nos Iau, 16 Ionawr 2024 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.

 

Bydd y seremoni wobrwyo’n dod â phartneriaid, sefydliadau ac unigolion allweddol eraill ynghyd i gydnabod mentrau, sgiliau a brwdfrydedd unigolion sy'n dilyn gyrfaoedd yn sectorau’r amgylchedd a’r tir.

 

Gwybodaeth allweddol:

 

  • Mae cystadlu yn rhad ac am ddim

 

  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Hydref 2024

 

  • Bydd y beirniadu yn digwydd ar 28 a 28 Hydref gan banel rhithwir o feirniaid arbenigol

 

  • Bydd beirniadu yn cael ei wneud trwy gyfweliad digidol yn dilyn proses cyn-ddewis

 

Enwebu dysgwr heddiw

Mae'r categorïau'n rhychwantu nifer eang o sectorau ar y tir ac yn adeiladu ar brosiectau newydd sy'n gweithredu mewn garddwriaeth ac iechyd a lles anifeiliaid.

 

Mae'r categorïau'n cynnwys:

 

Dysgwr Coleg y Flwyddyn (20 oed ac iau)

 

Dysgwr Coleg y Flwyddyn (21 oed a hŷn)

 

Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio (dan 40 oed a thros 40 oed)

 

Gwobr Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

 

Gwobr Arloeswr Fferm Cyswllt Ffermio

 

Wobr Cyfraniad Oes

Kevin Thomas - Cyfarwyddwr Lantra Cymru

“Mae Gwobrau Lantra Cymru yn darparu llwyfan i gydnabod a dathlu’r cyfraniadau rhagorol y mae unigolion wedi’u gwneud yn sectorau’r amgylchedd a’r tir yng Nghymru.”

 

“Os ydych chi'n adnabod unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn eu maes, yna cynigiwch eu henwau a helpwch i ddathlu llwyddiannau eleni. Hoffem annog pob unigolyn, coleg a sefydliad i gymryd rhan a dechrau enwebu nawr!”

 

“Rydym ni hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyswllt Ffermio wrth helpu i gynnal y Gwobrau.”

Cysylltu:

Maes Sioe Frenhinol Cymru
Llanelwedd
Llanfair-ym-Muallt
Powys
LD2 3WY
Ffôn: 01982 552646
E-bost: wales@lantra.co.uk

 

News

Farm Safety E-Learning Courses now Free of Charge

Read more
News

Lantra Launches Improved Bridge Inspector Certification Scheme

Read more
News

Lantra Launches 2025 Women in Scottish Aquaculture Mentoring Programme

Read more